Sefydliadau newyddion: Hwb o £100,000
- Cyhoeddwyd

Lansiodd y cyflwynwraig newyddion Siân Lloyd MyTown yn 2010
Mae gwefan newyddion a phapur newydd cymunedol wedi derbyn £50,000 yr un gan gynllun sy'n ceisio datblygu'r cyfryngau yn y Deyrnas Unedig.
Bydd yr arian yn galluogi Papur Dre yng Nghaernarfon a MyTown sy'n gwasanaethu'r Drenewydd a'r Trallwng i ehangu eu gwasanaethau.
Enillodd deg cynllun newyddion ar draws y DU £50,000 yr un gan gynllun Nesta, sefydliad arloesi sydd wedi'i ariannu gan y Loteri Cenedlaethol.
Bu 165 o geisiadau am y nawdd gan gynnwys 10 o Gymru.
'Heriau'r oes ddigidol'
Mae Papur Dre yn bapur newydd cymdeithasol sy'n cyd-weithio â'r cwmni teledu, Cwmni Da, a Choleg Menai yng Ngwynedd.
Byddant yn defnyddio'r nawdd i greu gwasanaeth newyddion a gwybodaeth ar ffonau symudol yn yr iaith Gymraeg gan ddefnyddio delweddau, fideos a thestun.
Bydd myfyrwyr Coleg Menai yn cael y cyfle i greu cynnwys ar gyfer y gwasanaeth gan greu sianel newyddion lleol ar fideo.
Dywedodd Dylan Huws, rheolwr cyfarwyddwr Cwmni Da: "Rydym wedi cael cyfle gwych i helpu Papur Dre wynebu heriau'r oes ddigidol."
Cafodd MyTown ei lansio yn 2010 gan David Williams ac fe fydd y cynllun yn defnyddio'r arian i lansio safleoedd newydd ar y we.
Bydd MyTown yn creu ap ffôn symudol ar gyfer ffôn-call fydd yn galluogi pobl dderbyn penawdau newyddion sy'n berthnasol i'r ardaloedd lle maen nhw'n byw.
Bydd defnyddwyr yr ap hefyd yn gallu uwchlwytho cynnwys eu hun.
Dywedodd Mr Williams: "Rydym wedi gweithio'n galed i sefydlu'r gwefannau newyddion a gwybodaeth ar gyfer Y Drenewydd a'r Trallwng yn ystod y ddwy flynedd diwethaf
"Bydd yr arian hwn yn ein galluogi i ehangu'r gwasanaeth i drefydd eraill a galluogi'n darllenwyr i dderbyn newyddion lleol drwy'r dechnoleg ffôn symudol arloesol diweddaraf."
Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru eu bod yn llongyfarch y ddwy fenter ar eu llwyddiant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2012
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012

- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2011
