Dyn o Fagillt yn euog o yrru'n ddiofal achosodd farwolaeth
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae dyn o Sir y Fflint achosodd farwolaeth beiciwr modur drwy yrru'n ddiofal wedi ei wahardd rhag yrru am flwyddyn ac wedi cael gorchymyn cymunedol am 12 mis.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug gwadodd Dale Anthony Foulkes, 24 oed o Fagillt, y cyhuddiad ond fe'i cafwyd yn euog wedi i'r rheithgor drafod am fwy na phedair awr.
Dywedodd y barnwr, Mr Cofiadur Huw Rees: "Mae sgileffeithiau dynol eich diffyg sylw wrth yrru wedi bod yn anferth.
"Rwy'n gobeithio eich bod yn gwerthfawrogi hynny."
'Mwy gofalus'
Dywedodd nad oedd y diffynnydd wedi ei gael yn euog o'r blaen.
"Ond mae angen i chi fod yn llawer mwy gofalus."
Clywodd y llys fod Foulkes wedi ceisio mynd heibio car, gan ymuno â'r lôn gyflym ar ffordd yr A55 ar Fehefin 15 y llynedd.
Roedd ei gar mewn gwrthdrawiad â beic modur oedd yn teithio y tu ôl iddo.
Roedd Stephen Robert Whitley, 53 oed o Lanllyfni ger Caernarfon, yn gyrru ei feic modur ar gyflymder o 72mya mewn ardal 40mya cyn iddo daro cefn car Foulkes.
Ffordd yn glir
Bu farw yn y fan a'r lle.
Honnodd Foulkes, sy'n gweithio ar nifer o ffermydd yn Sir Gaer, fod y ffordd yn glir pan edrychodd yn nrychau'r car cyn ceisio mynd heibio'r car o'i flaen.
Ond cytunodd y rheithgor â honiad yr erlyniad y dylai'r diffynnydd fod wedi gweld Mr Whitley yn nesáu bod y beiciwr modur o bosib yn teithio'n rhy gyflym.
Dywedodd y barnwr fod teulu Mr Whitley wedi creu argraff dda oherwydd eu hurddas yn ystod yr achos llys a barodd am dridiau.
Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol na fyddai'r ddedfryd yn rhoi llawer o gysur iddyn nhw.