Cynghrair Europa: KuPS 2-1 Llanelli
- Cyhoeddwyd

Bydd tîm Andy Legg yn edrych ymlaen at her yr ail gymal yn Llanelli ar Orffennaf 12
Fe wnaeth Llanelli frwydro yn ôl o fynd dwy gôl i lawr o fewn 20 munud yn Kuopio i roi gobaith gwirioneddol ar gyfer yr ail gymal yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.
Aeth y tîm llawn-amser o'r Ffindir ar y blaen wedi chwe munud gyda chic gosb gan Markus Joenmaki ar ôl trosedd ar Sander Puri gan Chris Venables.
Dyblwyd y fantais gan Ats Purje ar ôl iddo rwydo wedi pas gan Chris James.
Ond fe wnaeth yr asgellwr profiadol Jason Bowen sgorio dros Lanelli ychydig cyn yr egwyl i gadw'r gêm yn fyw.
Bydd yr ail gymal yn Llanelli ar Orffennaf 12.
KuPS Kuopio: Hilander, Nissinen, Joenmaki, Berg, Karkkainen, Obiefule, James, Purje, Ilo, Tabe, Hynynen. Eilyddion: Pontinen, Voutilainen, Paananen, Zahovaiko, Puri, Hoivala, Venalainen.
Llanelli: Morris, Thomas, Ashley Evans, Grist, Surman, Venables, Jason Bowen, Corbisiero, Kellaway, Rose, Luke Bowen.
Eilyddion: Jones, Williams, Scott Evans, Batley, Jenkins, Legg, Secker.
Dyfarnwr: Christopher Lautier (Malta)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2012
