Caniatáu i dyllu am nwy siâl ym Mro Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Cafwyd ganiatâd i dyllu i chwilio am nwy ar y safle yn Llandŵ
Mae Arolygiaeth Gynllunio Cymru (AGC) wedi caniatáu tyllu am nwy siâl i ddigwydd ar stad ddiwydiannol Llandŵ ym Mro Morgannwg.
Mae'r penderfyniad yn dilyn apêl gan gwmni Coastal Oil and Gas o Ben-y-bont ar Ogwr, gan i'w cais gwreiddiol gael ei wrthod.
Mae AGC wedi caniatáu tyllu "calchfaen isaf a haenau cysylltiedig am bresenoldeb nwy".
Mae gwrthwynebwyr yn poeni y bydd y tyllu yn arwain at broses arall o dyllu hydrolig sy'n cael ei adnabod fel ffracio.
Mae hynny'n golygu chwalu creigiau gyda chymysgedd o ddŵr, tywod a chemegau ar bwysedd uchel.
Dywed gwrthwynebwyr i'r broses yn y DU ac America - lle mae'n cael ei defnyddio'n helaeth - bod y broses yn gallu achosi llygredd amgylcheddol a salwch ymysg trigolion lleol.
Dywedodd yr arolygwr cynllunio, Emyr Jones: "Mae nifer sylweddol o'r gwrthwynebwyr yn codi pryderon am gynlluniau posib yn y dyfodol i dynnu nwy drwy'r broses ffracio.
"Er fy mod yn deall y pryderon, nid yw'r cais sydd o 'mlaen i yn cynnwys tynnu nwy naill ai drwy ffracio neu fel arall."
Ychwanegodd y byddai unrhyw gynllun ar gyfer ffracio angen cais o'r newydd, ac mae'r cynllun datblygu lleol yn tanlinellu nad yw caniatáu cais i chwilio am nwy yn awgrymu y byddai cais arall yn cael ei gymeradwyo.
Mae'r arolygwr hefyd wedi gosod nifer o amodau, gan gynnwys cyfyngu drilio i gyfnod rhwng misoedd Hydref a Mawrth, cynllun i liniaru'r sŵn a monitro dirgryniad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2012
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd29 Medi 2011
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2011