Mam yn euog o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae llys yn Abertawe wedi dyfarnu mam o Dreforys yn euog o lofruddio ei babi mis a hanner oed.
Roedd Michelle Smith, 34 oed, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth a chyhuddiad arall o ddynladdiad.
Cafwyd hyd i'r cyffur dihydrocodeine yng ngwaed ei babi, Amy, ar ôl archwiliad post-mortem.
Cafodd Smith ei dedfrydu i garchar am oes, a bydd yn rhaid iddi dreulio o leiaf 12 mlynedd dan glo.
Lleddfu poen
Bu farw'r babi ar Dachwedd 9, 2007, ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty.
Clywodd Llys y Goron Abertawe ei bod hi wedi dodi cyffuriau lleddfu poen ar ei chyfer hi a'i gŵr, Christpoher Smith, yn llaeth ei babi.
Roedd y fam wedi gwadu ei bod wedi niweidio'r babi ac wedi dweud na chafodd Amy unrhyw feddyginiaethau, ddim "hyd yn oed Calpol".
Cafodd ei chyhuddo o lofruddiaeth ym Mehefin 2011 a'r rhyddhau ar fechnïaeth.
Clywodd y rheithgor fod Smith wedi anfon neges testun i'w tad yng nghyfraith ar Ionawr 6 eleni gan ddweud ei fod am ildio ei hun i'r awdurdodau.
Pedair blynedd ar ôl marwolaeth Amy fe gerddodd Smith i orsaf yr heddlu yng Nghastell-nedd.
Dywedodd wrth heddwas: "Y fi wnaeth o. Y fi laddodd Amy."
Arwyddodd llyfr nodiadau plismon yn cadarnhau beth yr oedd newydd ei ddweud, ond pum munud yn ddiweddarach fe wnaeth newid ei meddwl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012
