Casnewydd: Tân mewn adeilad pedwar llawr
- Cyhoeddwyd

Dechreuodd y tân nos Sadwrn
Mae ymladdwyr tân yng Nghasnewydd wedi llwyddo i ddiffodd tân mewn adeilad gwag yng nghanol y ddinas
Dechreuodd y tan nos Sadwrrn ar do'r adeilad pedwar llawr ar Ffordd Commericial.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru iddynt dderbyn galwad am 22.37 pm.
Llwyddwyd i rwystro'r fflamau rhag lledu i adeiladau cyfagos.
Bu ffyrdd lleol ar gau am gynfod.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol