Dioddefwyr: Hanner arian yn ôl
- Cyhoeddwyd
Bydd dros 100,000 o gwsmeriaid, a gollodd arian pan aeth clwb cynilo Nadolig Farepak i'r wal yn 2006, yn cael hanner eu harian yn ôl.
Roedd nifer yng Nghymru wedi rhoi arian i'r cynllun.
Aeth y cwmni o Swindon i'r wal yn 2006, gan adael dyledion o £37 miliwn.
Cadarnhaodd cwmni gwasanaethau busnes BDO ddydd Mawrth y bydden nhw'n gwneud taliadau i 114,000 o gyn gwsmeriaid ac asiantiaid erbyn diwedd mis nesa'.
£8m
Yr wythnos ddiwetha' dywedodd grŵp bancio Lloyds eu bod am gyfrannu £8 miliwn at y gronfa ad-daliadau - gan olygu y byddai BDO yn gallu cynnig 32c yn y £1 i gyn gwsmeriaid.
Roedd elusen gafodd ei sefydlu i helpu'r cwsmeriaid wedi addo rhoi 17.5c yn y bunt - sy'n golygu y gallai cwsmeriaid dderbyn cyfanswm o 50c am bob £1.
Bydd y taliadau'n ddiwedd ar y broses o ddiddymu cwmni Farepak - bron chwe blynedd ar ôl i'r cwmni fynd i'r wal.