Geraint Williams yn rheolwr newydd Cymru dan-21
- Cyhoeddwyd

Enillodd Geraint Williams 13 o gapiau dros Gymru
Cafodd cyn-chwaraewr Colchester a Chymru, Geraint Williams, ei benodi'n hyfforddwr tîm pêl-droed dan-21 Cymru.
Mae Williams, 50 oed, yn olynu Brian Flynn a adawodd y swydd wedi wyth mlynedd pan ddaeth ei gytundeb i ben ym mis Mai.
Yn ei rôl fel rheolwr y timau canolraddol, bydd Williams hefyd yn gyfrifol am y timau dan-17 a dan-19.
Ond ei gêm gyntaf wrth y llyw gyda'r tîm dan-21 fydd yn erbyn Armenia yn un o gemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop yn Wrecsam fis nesaf.
Ar hyn o bryd mae Cymru'n drydydd yn y grŵp ar ôl cipio 10 pwynt o'u chwe gêm hyd yn hyn.
Chwaraeodd Williams bron 700 o gemau yn ystod ei yraf i glybiau Bristol Rovers, Derby, Ipswich a Colchester.
Fe enillodd 13 o gapiau i Gymru rhwng 1988 a 1996.
Wedi cyfnod dros dro, fe gafodd ei benodi'r rheolwr Colchester yn 2006.
Gorffennodd y clwb yn 10fed yn y Bencampwriaeth yn 2007, ond cafodd ei ddiswyddo ym mis Medi 2008 ychydig wedi i'r clwb ddisgyn i Adran 1.
Dywedodd datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru: "Mae'r Gymdeithas yn falch iawn o groesawu Geraint Williams fel y rheolwr timau canolraddol newydd."