Hylendid bwyd: 'Gormod o amser i apelio'
- Cyhoeddwyd

Byddai tua 32,500 o fusnesau yn y maes yng Nghymru yn dod o dan y cynllun
Mae cynnig gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y cyfnod o amser i apelio yn erbyn sgoriau hylendid bwyd yn ormodol, yn ôl Llais Defnyddwyr Cymru.
O dan y system gyfredol, saith niwrnod a gaiff busnesau bwyd i apelio yn erbyn sgôr.
Ond mae Bil Sgoriau Hylendid Bwyd (Cymru) y llywodraeth yn bwriadu ymestyn y cyfnod hwn i 21 diwrnod.
Mae'r corff gwarchod defnyddwyr yn ofni y gallai hyn achosi oedi o bron i ddeufis (56 diwrnod) cyn y caiff y wybodaeth ei harddangos.
Eu dadl yw y gallai apeliadau a gaiff eu hystyried gan awdurdodau bwyd gymryd hyd at 21 diwrnod o dan y cynigion newydd, wedi'r cyfnod o 14 diwrnod y bydd awdurdod eisoes wedi'i gael ar ôl yr arolygiad cychwynnol i anfon ei hysbysiad am ei sgôr i fusnes bwyd, gan hysbysu'r busnes hwnnw o'i hawl i apelio.
Argymell
Bydd Llais Defnyddwyr yn argymell i'r pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddydd Iau y dylai busnes bwyd orfod cyflwyno apêl o fewn 10 diwrnod o'r dyddiad y caiff hysbysiad.
Bydd hefyd yn argymell y dylai awdurdod bwyd benderfynu ar yr apêl a hysbysu gweithredwr y sefydliad am ei benderfyniad o fewn 10 diwrnod o'r dyddiad y derbyniwyd yr apêl.
Ym mis Mai, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y bydd cwmnïau sy'n cyflenwi bwytai, bwytai bwyd parod a ffreuturau yn rhan o'r cynllun marciau hylendid.
Bydd cynigion Llywodraeth Cymru yn gorfodi'r busnesau i ddangos sgôr hylendid bwyd rhwng 0 a 5.
Mae'r cynllun wedi ei ehangu i fusnesau sy'n paratoi bwyd ond ddim yn ei werthu'n uniongyrchol i gwsmeriaid.
Mae hefyd yn cynnwys cynhyrchwyr, cyfanwerthwyr a chludwyr bwyd.
'Cadarn o blaid'
Dywedodd Liz Withers, Pennaeth Polisi yn Llais Defnyddwyr Cymru, eu bod yn gwerthfawrogi'r ffaith bod pryderon wedi'u codi yn ystod yr ymgynghoriad o ran effaith gwyliau, naill ai gweithredwyr bwyd neu gynrychiolwyr awdurdodau bwyd sy'n gyfrifol am hyn a bod angen amser arnyn nhw i ymateb.
"Rydym o'r farn bod 21 diwrnod yn ormodol.
"Gallai hyn arwain at oedi sylweddol o bron i ddeufis cyn y gall defnyddwyr weld y sgôr newydd ar safle'r busnes bwyd.
"Er ein bod yn gadarn o blaid cyflwyno'r Bil, mae'n hanfodol bod manylion y cynigion hyn yn iawn er mwyn sicrhau y gall defnyddwyr weld gwybodaeth am hylendid bwyd yn haws.
"Mae'n allweddol sicrhau y gall defnyddwyr weld gwybodaeth gyfredol a dibynadwy am sgoriau cyn gynted â phosibl ar ôl arolygiad."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai 2,500 busnes ychwanegol yn rhan o'r cynllun, cyfanswm o 32,500 o fusnesau.
Roedd adolygiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn 2011 yn awgrymu mai dim ond 31% o fusnesau bwyd oedd yn dangos eu sgôr hylendid bwyd yn wirfoddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y cynllun statudol newydd mewn lle erbyn mis Tachwedd 2013.
Cymru fydd rhan gynta'r Deyrnas Gyfunol lle bydd rhaid dangos sgoriau hylendid bwyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2011

- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011