Cofnod o Benmachno rhwng y cloriau
Creu cofnod o Benmachno ar gyfer y dyfodol ydi nod rhai o'r trigolion lleol wrth iddyn nhw fynd ati i lunio llyfr o'r pentre'.
Maen nhw wedi bod yn tynnu llun o bob person sy'n byw yn y pentre' a'r adeiladau.
Mae'r cyfan yn bosib oherwydd cefnogaeth ariannol gan Bartneriaeth Gwledig Cyngor Conwy.
Merfyn Davies fu'n pori drwy'r tudalennau gydag Aled Roberts a Chadeirydd y Fenter John Jones.