Cyhuddo dyn o geisio llofruddio dyn ym Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn 34 oed o Ferthyr Tudful o ymgais i lofruddio ar ôl ymosodiad difrifol yn y dre' ddydd Mercher.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Acacia Avenue ychydig wedi hanner nos wedi i ddyn 23 oed gael ei drywanu nifer o weithiau.
Aed ag e i Ysbyty'r Tywysog Charles.
Mae disgwyl i'r dyn sydd wedi ei gyhuddo ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr ddydd Iau.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio ditectifs ar 01685 724272 neu Taclo'r Tacle'n ddi-enw ar 0800 555111.