Y nofelydd Jon Gower: Anllythrennedd yn 'argyfwng'
- Cyhoeddwyd

Enillodd Jon Gower Lyfr y Flwyddyn 2012
Ar ôl ennill cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Y Storïwr dywedodd Jon Gower ei fod yn poeni am allu pobl i ddarllen.
Mewn cyfweliad gyda Post Cyntaf BBC Radio Cymru dywedodd fod "anllythrennedd yn argyfwng cymdeithasol".
Dywedodd nad cyfrifoldeb ysgolion yn unig oedd datrys y broblem.
"All y system statudol ddim ysgogi cariad a brwdfrydedd at y gair yn unig," meddai.
Catrin Heledd yn holi Jon Gower wedi iddo ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012
Dywedodd fod 'na gyfrifoldeb ar rieni yn ogystal ag athrawon.
"Fe ddylai rhieni wneud ymdrech i eistedd a darllen gyda'u plant yn gyson.
"Nid yn unig y mae llai yn darllen llyfrau ond y brif broblem yw na all rhai pobl ddarllen o gwbl.
"Mae hyn yn fwy o broblem mewn ardaloedd difreintiedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2012