'Yn amserol'
- Cyhoeddwyd

Cafodd y llawysgrif ei phrynu am £541,250 gan y Llyfrgell Genedlaethol
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi galw am arddangos llawysgrif cyfreithiau Hywel Dda yn y Senedd.
Cafodd y llawysgrif ei phrynu mewn ocsiwn yn Sotheby's yr wythnos hon gan y Llyfrgell Genedlaethol am dros £500,000.
Mae AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas, wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, ac Andrew Green o'r Llyfrgell Genedlaethol i ofyn am drafod arddangos Llawysgrif Boston yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Cafodd y llawysgrif ganoloesol brin o'r 14eg ganrif ei gwerthu am £541,250 ac mae'n cael ei hystyried yn "un o drysorau diwylliant Cymru ac yn symbol hanfodol o hunaniaeth genedlaethol".
'Amserol'
Dywedodd Mr Thomas: "Yn sgil prynu Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda a'i dychwelyd i Gymru hoffwn weld y llawysgrif yn y Senedd.
"Mae'n llyfryn yn werthfawr yn ddiwylliannol, yn ariannol ac yn hanesyddol ac ar hyn o bryd mae Pwyllgor Cyfansoddiadol y Cynulliad yn ymchwilio i awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru a Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y mater.
"Byddai'n amserol ac yn berthnasol felly i gael y llyfryn hwn oedd mor bwysig yn ei ddydd, ac yn amlwg yn cael defnydd, yn y Senedd am gyfnod byr.
"Mae'n debyg y bydd y llawysgrif yn rhan o arddangosfa deithiol a byddai'n dda o beth i'r llawysgrif ddod i'r Senedd."
'Yn hygyrch'
Dywedodd yr hoffai ddiolch a llongyfarch y Llyfrgell Genedlaethol am sicrhau bod Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn dychwelyd i Gymru.
Ychwanegodd Mr Thomas: "Ar ôl y refferendwm llwyddiannus dyma'r amser i ddod â chyfraith Cymru gan ail-sefydlu llyfr statud.
"Dyma sut i wneud cyfraith Cymru yn eglur ac yn hygyrch i bawb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2012
