Ailagor lein rheilffordd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 7:00pm ddydd Iau
Mae lein rheilffordd yn Sir Benfro fu ar gau ers i drên ddod oddi ar y cledrau ddydd Iau wedi ailagor.
Roedd 30 o deithwyr ar y trên o Gaerloyw i Harbwr Abergwaun pan ddaeth oddi ar y cledrau yn Welsh Hook.
Ers hynny mae bysus wedi bod yn cludo teithwyr rhwng Caerfyrddin a Harbwr Abergwaun, ond dywedodd cwmni Network Rail bod trenau wedi ail-ddechrau teithio ar y lein fore Sul.
Roedd y broblem wedi effeithio ar bobl oedd yn teithio i ddal y llong fferi i Iwerddon.
Credir bod gwartheg wedi mynd ar y rheilffordd ar hyd llwybr ar groesfan a gafodd ei drwsio o fewn yr wythnos diwethaf.
Chafodd neb anaf, ond dywedodd y Gwasanaeth Tân aeth i'r safle y gallai'r digwyddiad fod wedi bod yn llawer mwy difrifol.
Dywedodd Network Rail eu bod yn ystyried y digwyddiad yn un difrifol, ac mae ymchwiliad eisoes wedi dechrau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2012