Golff: Price yn gorffen yn dda
- Cyhoeddwyd

Gorffennodd Price yn y deg uchaf am yr ail dro'r tymor hwn
Cafodd Philip Price wythnos ardderchog ym Mhencampwriaeth Golff Agored yr Alban ar gwrs Castle Stewart.
Gorffennodd y Cymro yn gydradd wythfed a hynny 14 ergyd yn well na'r safon - tair ergyd y tu ôl i'r enillydd.
Gorffennodd Francesco Molinari o'r Eidal a Jeev Milkha Singh o India yn gyfartal ar y brig, gyda Singh yn mynd â hi ar y tyllau ychwanegol.
Dyma'r ail dro i Price orffen yn y deg uchaf y tymor hwn ar gylchdaith Ewrop gan iddo orffen yn drydydd yn y Trophée Hassan ym mis Mawrth.
Roedd Price yn un o'r ddim ond dau gystadleuydd gafodd sgôr o llai na 70 ymhob rownd.
Roedd Cymro arall, Rhys Davies, wedi mwynhau'r gystadleuaeth yn ogystal, ond cafodd rownd olaf siomedig yn yr Alban.
Pencampwriaeth Agored yr Alban - Canlyniad :-
=1. Jeev Milkha Singh (India) = -17 (66;70;68;67) - Singh enillodd ar y twll ychwanegol cyntaf
=1. Francesco Molinari (Yr Eidal) = -17 (62;70;67;72)
=8. Philip Price (Cymru) = -14 (68;69;68;69)
=58. Rhys Davies (Cymru) = -5 (72;68;68;75)