Ffermwyr yn picedu archfarchnad yn y Trallwng
- Cyhoeddwyd

Roedd y brotest wedi cyfarfod ag AS Maldwyn, Glyn Davies.
Mae ffermwyr wedi picedu archfarchnad Morrisons yn y Trallwng oherwydd cwymp mewn prisiau llaeth.
Roedd y brotest, gafodd ei harwain gan undeb NFU Cymru, wedi cyfarfod rhwng mwy na 100 o ffermwyr ag Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, ym marchnad Y Trallwng.
Cafodd taflenni eu dosbarthu i siopwyr.
Mae'r ffermwyr yn honni nad yw'r archfarchnadoedd yn cefnogi ffermwyr.
'Pris teg'
Dywedodd Dirprwy-gadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, Jonathan Wilkinson, oedd yn y brotest: "Mae ffermwyr llaeth yn colli arian gyda phob diferyn o laeth maen nhw'n ei gynhyrchu ...
"Nid yw Morrisons, Asda, na'r Co-op yn sicrhau bod ffermwyr sy'n cyflenwi llaeth yn cael pris teg.
"Nid ydyn nhw hyd yn oed yn sicrhau bod ffermwyr yn cael y pris sy'n diogelu'r gost o gynhyrchu'r llaeth.
"Rhaid i fasnachwyr a phroseswyr gymryd cyfrifoldeb a darparu cadwyn gyflenwi gynaliadwy sy'n sicrhau bod pob rhan o'r gadwyn yn gwneud elw."
Yr wythnos ddiwethaf teithiodd dros 1,000 o ffermwyr llaeth i Lundain i brotestio yn erbyn y cwymp mewn prisiau llaeth.
Cafodd yr "uwchgynhadledd llaeth" ei chynnal yn Westminster wrth i gynrychiolwyr undebau cyfarfod â'r Gweinidog Amaethyddiaeth a Bwyd, Jim Paice.
'Anghydfod'
Y rheswm am y cyfarfod oedd bod y cwmnïau gwerthu llaeth yn bwriadu gostwng y pris sy'n cael ei dalu i gynhyrchwyr llaeth o Awst 1 ymlaen.
Mae Robert Wiseman, Aria Foods a Dairy Crest yn bwriadu gostwng y pris o 1.7c y litr, 2c y litr, a 1.65c y litr.
Dywedodd llefarydd ar ran Morrisons: "Rydym yn deall yn iawn fod yna anghydfod o ran y prisiau cyfanwerth ac rydym yn ystyried a oes yna fodelau eraill y gallwn ni eu defnyddio i gefnogi ffermwyr yn well.
"Fe fydd rhaid i unrhyw ateb gefnogi'r holl ddiwydiant.
"Dyna pam rydym yn talu premiwm o un geiniog y litr i'n proseswyr sydd wedyn yn cael ei rannu rhwng pob ffermwr ..."
"Dydyn ni ddim o blaid trefn lle mae llond llaw o ffermwyr yn cael eu talu'n fwy na'r gweddill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011

- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011
