£3m i wella band eang ysgolion
- Cyhoeddwyd

Bydd disgyblion yn cael cynnig cyfrifiaduron tabled rhad, nid y rhai drutaf fel yr iPad
Bydd disgyblion ysgol yn cael cynnig cyfrifiaduron tabled rhad fel rhan o gynllun newydd gwerth £3 miliwn gan gyngor y ddinas.
Dywed Cyngor Caerdydd y bydd pob ysgol yn elwa ar gysylltiad cyflym i'r we.
Bydd gosod offer mewn ysgolion yn dechrau yn ystod gwyliau'r haf ac yn para am ddwy flynedd ond mae 27 o ysgolion eisoes wedi cael eu huwchraddio i'r rhwydwaith newydd.
Mae'r cyngor yn dweud y bydd y buddsoddiad yn golygu newid mawr i'r modd y mae disgyblion yn cael ei addysgu.
Fe fydd cyfrifiaduron tabled ar gael ar gyfer pob ysgol i'w defnyddio yn y dosbarth ond bydd defnyddwyr ffonau symudol diwifr a theclynnau eraill ar eu hennill oherwydd y cyswllt cyflym.
Bwriad y cyngor yw prynu cyfrifiaduron tabled ychwanegol fydd ar gael i rieni eu prynu.
'Her'
Un ysgol sydd eisoes wedi cael yr offer yw Ysgol Gynradd Tredegarville (Yr Eglwys Yng Nghymru).
"Yr her yw parhau i ddatblygu ffyrdd mwy dychmygus ac arloesol o ddarparu'r cwricwlwm statudol, gan gynnal safonau cyrhaeddiad a'u gwella," meddai'r pennaeth David Harris.
Dywedodd y Cynghorydd Julia Magill, sydd â chyfrifoldeb am addysg ar gabinet Cyngor Caerdydd: "Bydd y buddsoddiad o fudd i ddisgyblion a chymunedau nawr ac yn y dyfodol.
"Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu rhoi swm sylweddol o arian i brosiect mor bwysig.
"Mae addysg yn parhau yn un o brif flaenoriaethau'r cyngor a bydd y prosiect yn sicrhau y gallwn wneud cynnydd pellach o ran ein cynlluniau i roi pob cyfle i bob plentyn a pherson ifanc yn y ddinas gyrraedd ei botensial."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2011