Elin Jones yn ddirprwy arweinydd
- Cyhoeddwyd

Collodd Elin Jones y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru ym mis Mawrth
Cafodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, ei phenodi'n ddirprwy arweinydd grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad.
Roedd hi'n ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid ym mis Mawrth, gan golli i Leanne Wood.
Ms Wood enwebodd Elin Jones am swydd y dirprwy ac fe gafodd y swydd wedi pleidlais y grŵp yn y Cynulliad ddydd Mawrth.
Fe fydd Ms Jones a Jonathan Edwards AS yn cael eu henwebu i fod yn nhîm arweinyddol Leanne Wood.
Y grŵp arweinyddol fydd yn anelu at sicrhau cyfeiriad effeithiol i'r blaid gyfan yn y dyfodol.
'Llawer o barch'
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC: "Mae Elin yn un o aelodau mwyaf craff a galluog y Cynulliad ac mae gan ei chyd-ACau Plaid Cymru, ac ACau pleidiau eraill, lawer o barch ati.
"Mae Elin a fi wedi gweithio'n agos gyda'n gilydd ers i mi gael fy ethol yn arweinydd ac, fel y disgwyliais, mae hi wedi fy nghefnogi bob cam o'r ffordd ers yr etholiad.
"Rwy'n hynod o falch ei bod hi wedi derbyn fy enwebiad iddi fod yn ddirprwy arweinydd ar ein grŵp ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n llawer mwy agos gyda hi dros y misoedd nesaf."
'Anrhydedd'
Dywedodd Elin Jones AC: "Mae'n bleser mawr gennyf dderbyn y rôl hon fel dirprwy Leanne yn y Cynulliad.
"Mae'n anrhydedd i gael fy ethol gan arweinydd ein plaid ac i dderbyn cefnogaeth unfrydol y grŵp.
"Yn ogystal â pharhau i ymgyrchu dros ddyfodol Gwasanaeth Iechyd Cymru fel llefarydd iechyd ein grŵp, rwy'n bwriadu canolbwyntio fy ymdrechion ar gyrraedd nod Plaid Cymru o wella rhagolygon economaidd ein cenedl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2012
