Angladd milwr o Gymru a laddwyd yn Afghanistan
- Cyhoeddwyd

Cafodd y Gwarchodfilwr Craig Roderick ei ladd yn Afghanistan ar Orffennaf 1
Cafodd milwr o Gymru, a saethwyd yn Afghanistan gan blismon, ei ganmol am ei "synnwyr digrifwch gwych" yn ei angladd.
Roedd y Gwarchodfilwr Craig Andrew Roderick, 22 oed o Lanharan, ymhlith tri milwr a gafodd eu saethu gan ddyn yn gwisgo lifrai heddlu Afghanistan yn Nhalaith Helmand ar Orffennaf 1.
Roedden nhw'n cyfarfod ag arweinwyr lleol yn Kamparack Pul ar y pryd.
Roedd y Gwarchodfilwr Roderick a Saunikalou Ratumaiyale Tuisovurua, 28 oed, yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig a'r Swyddog Gwarantedig Leonard Perran Thomas, 44 oed o Gorfflu Brenhinol y Signalau, yn gyn-aelod o'r Gwarchodlu Cymreig.
Roedd hyd at 700 o bobl yng Nghadeirlan Llandaf, Caerdydd, ar gyfer y gwasanaeth dan arweiniad y Caplan Milwrol, y Tad Andrew Latifa, a'r Parchedig Ganon Graham Holcombe, ddydd Mawrth.
Cafodd y Gwarchodfilwr Roderick ei ganmol am ei frwdfrydedd wrth wasanaethu dros ei wlad.
Dywedodd y Brigadydd Robert Talbot-Rice: "Roedd yn ddewr, gonest a theyrngar.
"Y math o ddyn y byddai pob milwr yn falch o'i gael gyda nhw."
Fe'i disgrifiodd fel milwr "hynod o broffesiynol" oedd yn "rhoi popeth" i'w waith.
"Roedd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pob dydd pobl gyffredin y dalaith," meddai.
Wedi'r gwasanaeth, cafodd corff y Gwarchodfilwr Roderick ei gludo i Amlosgfa Bryn Draenen, Caerdydd.
'Bwlch mawr'
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Pencoed yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, mae'n gadael tad a mam, Mike a Sadie, dwy chwaer, llysfrawd, mam-gu a chariad.
"Ni all geiriau ddisgrifio sut mae colli Craig wedi effeithio arnon ni," meddai ei deulu.
"Ni fydd y bwlch mawr sydd wedi ei adael fyth yn cael ei lenwi.
"Bydd pawb oedd yn ei adnabod yn colli ei wên fawr a'i ddigrifwch.
"Ef oedd y mab, brawd neu ffrind gorau y gallwch ei gael.
"Roedd yn anrhydedd ei adnabod. Bydd yna golled ar ei ôl a wnawn ni fyth ei anghofio."
Mae'r teulu wedi gofyn i bobl roi cyfraniad at elusen Help for Heroes trwy law'r ymgymerwyr os ydyn nhw'n dymuno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2012