Gemau 2012: Pryder am ddiogelwch
- Cyhoeddwyd

Bydd cystadleuaeth gyntaf y Gemau Olympaidd 2012 yn yn Stadiwm y Mileniwm
Fe fydd diogelwch y cyhoedd yn cael ei gyfaddawdu wrth i blismyn orfod cynorthwyo gyda diogelwch y Gemau Olympaidd, medd un plismon.
Mae heddwas Heddlu De Cymru, sydd wedi siarad â BBC Cymru'n ddi-enw, wedi rhybuddio y gallai cwtogi nifer y plismyn ar ddyletswydd olygu oedi wrth ymateb i alwadau 999.
Mae Heddlu De Cymru, un o wyth o heddluoedd sy'n helpu llenwi'r bwlch wedi methiant cwmni G4S i recriwtio a hyfforddi digon o swyddogion, wedi dweud na fydd plismona'n diodde'.
Roedd llefarydd wedi dweud bod cynlluniau wrth gefn ar gyfer Caerdydd yn rhan o'u cynllunio ac mai sicrhau gemau diogel oedd y flaenoriaeth.
'Anghywir'
Dywedodd yr heddwas dienw wrth BBC Cymru ei fod yn anghytuno.
"Mae hynny'n gwbl anghywir," meddai.
"Mae ergyd fawr i blismona rheng flaen oherwydd diogelwch y gemau a beth bynnag y mae'r uwch-reolwyr yn ei ddweud nid yw'n wir dweud bod heddweision sy' i fod ar ddiwrnod i ffwrdd yn cael eu galw i mewn.
"Rhaid i rhywbeth gael ei ddweud. Mae'r cyhoedd yn cael eu camarwain - mae plismona rheng flaen yn mynd i ddioddef.
"Nid wyf yn credu y bydd diogelwch o gwmpas digwyddiad Olympaidd yn mynd i ddiodde' ond fe fydd y gwasanaeth i'r cyhoedd ...
"Gallai swyddog neu aelod o'r cyhoedd gael niwed oherwydd fydd neb ar gael i ymateb i argyfwng waeth beth mae'r brif swyddfa yn ei ddweud."
Dim trafferthion
Mewn datganiad ddydd Llun, mynnodd lelfarydd ar ran Heddlu'r De na fyddai'n cyfaddawdu diogelwch ar y strydoedd.
Yn y cyfamser, dywedodd rheolwr Stadiwm y Mileniwm - fydd yn cynnal digwyddiad cyntaf y Gemau Olympaidd ddydd Mercher - na fydd trafferthion G4S yn effeithio ar waith diogelwch y stadiwm.
Roedd Gerry Toms wedi cytuno gyda threfnwyr y Gemau - LOCOG - i ddefnyddio stiwardiaid y stadiwm eu hunain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd23 Mai 2012