Ymosodiadau gan gŵn yn poeni'r Post Brenhinol
- Cyhoeddwyd

Mae ymosodiadau gan gŵn yn effeithio ar weithwyr post yn gorfforol a seicolegol yn ôl undebau a'r Post Brenhinol
Mae ymosodiadau gan gŵn ar weithwyr post yn "annerbyniol o uchel" yn ôl y Post Brenhinol.
Ymosodwyd ar gyfanswm o 217 o bostmyn wrth iddynt wneud eu gwaith yn y 12 mis hyd at fis Ebrill 2012, cynnydd o 3%.
Roedd cynnydd o 50% yn ardal côd post SY, yr ardal o Aberystwyth i'r Amwythig, gyda chyfanswm o 30 ymosodiad gan gŵn.
Mae'r Post Brenhinol ac undeb y CWU wedi rhybuddio y bydd perygl o fwy o ymosodiadau dros wyliau'r haf pan fydd mwy o gŵn yn cael eu gadael yn rhydd mewn gerddi.
Gyda gwyliau'r haf ar fin cychwyn mae'r ddau gorff yn apelio ar berchnogion cŵn i reoli eu hanifeiliaid.
Mae ffigyrau a gyhoeddwyd ar y cyd gan y Post Brenhinol a'r CWU yn dangos mai yn ardal côd post Caerdydd oedd y nifer uchaf o ymosodiadau, mwy na 40, ond roedd hyn wedi gostwng 18% ers y 12 mis blaenorol.
Ymosodwyd ar fwy na 30 o bostmyn dros ardal côd post SA, gostyngiad o 19% ers y flwyddyn gynt.
Roedd y cynnydd mwyaf yn ardal côd post SY, cynnydd o 50% i 31.
Rottweiler
Dywedodd Richard Thomas, sydd wedi bod yn bostmon am 19 mlynedd, ei bod wedi ei frawychu gan yr ymosodiad diweddaraf arno.
Ymosodwyd arno gan gi Rottweiler wrth iddo fynd â pharsel i dŷ yn ardal Pontypridd.
Dywedodd: "Curais ar y drws. Agorwyd y drws gan ferch fach a gwthiodd y ci hi allan o'r ffordd a daeth yn syth ataf.
"Rhoddais y parsel o'm mlaen a chnôdd ddarn allan ohono.
"Roeddwn yn mynd yn ôl lawr y llwybr. Daeth ataf eto a neidio amdanaf. Gyda'i bwysau a'i rym fe wthiodd fi i'r llawr a neidio arnaf.
"Yr unig beth allwn feddwl i'w wneud oedd cymryd gafael ar ei wddf a cheisio ei rwystro rhag fy nghnoi. Roedd yn ffodus ei bod yn gwisgo coler achos roeddwn yn medru dal ei ben i fyny.
"Roeddwn i'n gallu teimlo ei grafangau ar fy ysgwydd. Rhaid bod y perchennog wedi sylweddoli bod y drws ar agor. Daeth allan a gweiddi ar y ci.
"Roeddwn yn waed i gyd ar fy nwylo. Galwodd ar y ci eto ac aeth i mewn i'r tŷ a chau'r drws."
Dywedodd Mr Thomas: "Dwi'n nerfus nawr pan dwi'n mynd mewn i ardd ac yn clywed ci. Rydych ar bigau'r drain os clywch chi'r sŵn yna."
Mae'r Post Brenhinol wedi gwario dros £100,000 ar draws y DU ar ymgyrchoedd ymwybyddiaeth yn ogystal â dosbarthu 90,000 "pegiau postio" sydd yn amddiffyn y bysedd wrth wthio llythyrau drwy flwch post.