Galw am fforwm annibynnol i astudio'r diwydiant creadigol
- Cyhoeddwyd

Mae'r adroddiad yn canmol y cytundeb rhwng y BBC ac S4C
Mae angen fforwm annibynnol i astudio'r diwydiannau creadigol yng Nghymru - dyna gasgliad adroddiad trawsbleidiol.
Mae'r fforwm i edrych ar gwmnïau teledu, papurau newydd a sectorau eraill o'r cyfryngau.
Arweinydd y drafodaeth ar ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru a Chadeirydd y Grŵp oedd Ken Skates AC.
Dywedodd Mr Skates bod y grŵp wedi clywed tystiolaeth "nad oedd Llywodraeth Cymru yn rhan" o'r diwydiant creadigol yng Nghymru.
Argymhelliad y grŵp oedd y dylai'r llywodraeth sefydlu fforwm annibynnol i gynghori ar bolisi mewn perthynas â'r cyfryngau yng Nghymru.
Cafodd yr argymhelliad yma ei wrthod gan y llywodraeth - ond fe wnaeth dderbyn yr alwad am adolygu'r ddarpariaeth wleidyddol oedd yn cael ei wneud gan BBC Cymru, yn benodol ar sail toriadau cyllideb i'r adran berthnasol.
'Rhaglenni o ansawdd'
Fe wnaeth hefyd dderbyn yr argymhellion i gadw golwg y cytundebau ar gyllid S4C i sicrhau bod y cytundeb ariannol yn addas.
Roedd Mike Hedges AC yn nodi'r angen i barhau gyda chyllid digonol ar gyfer y sianel er mwyn darlledu rhaglenni o ansawdd, rhaglenni fel Cyw a darllediadau o Uwch Gynghrair Cymru.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Huw Lewis, y dylai rôl y Cynulliad a Llywodraeth Cymru "ddatblygu a thyfu yn nhermau'r berthynas gyda'r cyfryngau".
Er hynny, fe wnaeth y gweinidog godi pryderon mewn perthynas â'r diwydiant papurau newydd.
"Er nad oes gennym ni (Llywodraeth Cymru) gyfrifoldeb uniongyrchol am y diwydiant papur newydd yng Nghymru, rydym yn hynod bryderus am i nifer o swyddi sy'n cael eu colli."
Pwysleisiodd bod y diwydiant cyfryngau fel cyfanwaith "yn wynebu dyfodol ansicr".
Ond fe wnaeth ganfod y bartneriaeth newydd rhwng S4c a BBC gan ddwued "bod budd i bobl Cymru".
Fe wnaeth o hefyd dalu teyrnged i ITV Cymru gan bwysleisio'r pwysigrwydd am "lais annibynnol cryf" i wrthbwyso yn erbyn BBC Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012