Cynlluniau ad-drefnu iechyd yng ngogledd Cymru
Mae cynllun ar gyfer ad-drefnu gwasanethaui iechyd yn y gogledd yn cael eu trafod gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladar ddydd Iau.
Mae BBC Cymru'n deall fod 'na argymhellion i gau rhai ysbytai cymuendol gan gynnwys yr un ym Mlaenau Ffestiniog.
Mae 'na bryder yno ers blynyddoedd fod yr ysbyty o dan fygythiad.
Mae'n debyg na fydd 'na newid i'r gwasanaethau mamolaeth a phlant ar draws y gogledd.
Ond mae'n bosib y bydd y triniaethau yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn cael eu hadolygu.
Adroddiad Rhian Price.