Pryder un o weithwyr Remploy
Mae arweinwyr undeb Unite yn disgwyl i 250 o weithwyr Remploy gymryd rhan mewn streic 24 awr.
Maen nhw'n anfodlon gyda chynlluniau Llywodraeth San Steffan i gau 54 o'u ffatrioedd, gan gynnwys saith yma yng Nghymru.
Bu'r Post Cyntaf yn siarad gydag Alex Morgan sy'n gweithio yn Remploy Baglan.
Dyw'r ffatri honno ddim ar y rhestr cau presennol, ond dyw hynny ddim yn atal gofid am y dyfodol.