Pysgotwyr yn cyflwyno adroddiad
- Cyhoeddwyd

Mae dros draean o ddyfroedd Cymru wedi'u dynodi'n ardaloedd gwarchod
Mae pysgotwyr wedi cyflwyno adroddiad Cymdeithas Pysgota Cymru i'r Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths.
Gwrthwynebu y maen nhw'r syniad o sefydlu parthau morol o gwmpas yr arfordir.
Yn ôl cynlluniau, y rhain fydd yr ardaloedd ble y byddai pysgota a gweithgareddau eraill yn cael eu gwahardd.
Mae adroddiad y pysgotwyr yn cyfeirio at "lefelau uchel o amddiffyn amgylcheddol" na fyddai'n effeithio ar gymuneddau.
Bydd gweinidogion Cymru yn dynodi safleoedd yng ngwanwyn 2014.
Rheoli annigonol

Dywedodd Colin Evans mai'r pysgotwyr sy'n gwybod sut i warchod y môr
Mae dros 36% o ddyfroedd tiriogaethol Cymru wedi'u dynodi'n Ardaloedd Morol Gwarchodedig ar hyn o bryd.
Ond mae rheoli annigonol yn golygu bod nifer o'r ardaloedd pwysig hyn yn methu â gwarchod y cynefinoedd a'r rhywogaethau y cynlluniwyd iddyn nhw eu diogelu.
Dywedodd y pysgotwr cimychiaid Colin Evans os na fyddai'n gallu pysgota yn y dyfodol, mae'n annhebyg o barhau gydag agweddau eraill ei waith fel cludo twristiaid a chludo cyflenwadau i'r wyth o bobl sy'n byw ar Ynys Enlli.
"Rydan ni i gyd o blaid gwarchod ardaloedd morol," meddai.
"Ond ein dadl ni yw mai pysgotwyr fel ni yw'r rhai sydd â hanes o gadwraeth yn yr ardal hon."
Mae sefydliadau amgylcheddol wedi croesawu cynnydd wrth wella'r ffordd y gwarchodir y môr o gwmpas Cymru.
'Cam cyntaf'
Dywedodd Dr Iwan Ball, Cadeirydd Gweithgor Morol Cyswllt Amgylchedd Cymru: "Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru'n croesawu'r ymgynghoriad fel cam cyntaf i ganiatáu i foroedd Cymru wrthdroi'r dirywiad o ran ein cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr.
"Ond rydym wedi'n siomi gan y diffyg uchelgais sy'n cael ei ddangos eisoes gan Lywodraeth Cymru wrth gyfyngu ar faint a nifer yr ardaloedd gwarchodedig hyn.
"Rydym hefyd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n bodoli eisoes yng Nghymru eu rheoli'n well yn y dyfodol, gan eu bod mewn perygl o beidio â gwarchod y bywyd gwyllt morol toreithiog a'r amrywiaeth ryfeddol o gynefinoedd maen nhw'n ceisio eu gwarchod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2012
