Justin Edinburgh yn estyn ei gytundeb gyda Chasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae Justin Edinburgh wedi bod wrth y llyw ers Hydref 2011
Mae rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, Justin Edinburgh, wedi arwyddo cytundeb tan ddiwedd tymor 2013-14.
Fe wnaeth Edinburgh, 42 oed, olynu Anthony Hudson ym mis Hydref 2011.
Oherwydd ei ddylanwad arhosodd y tîm yn y gynghrair ar ôl pryderon y byddai'r tîm yn disgyn.
Fe wnaeth y tîm hefyd gyrraedd rownd derfynol Tlws yr FA.
"Dwi'n falch o sicrhau fy addewid i'r clwb a dwi'n credu ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir ar ac oddi ar y cae," meddai.
Rhannu maes
Fe ddaw'r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl y newyddion bod cadeirydd a chyfarwyddwr y clwb, Chris Blight, wedi ymddiswyddo ar ôl 10 mlynedd.
Roedd Blight yn gyfrifol am symud o Barc Spytty i rannu maes gyda Dreigiau Gwent ar Rodney Parade.
Fe wnaeth Edinburgh, cyn amddiffynnwr gyda Tottenham Hotspur, ennill Cwpan yr FA a Chwpan y Gynghrair tra oedd yn White Hart Lane.
"Mae'r cefnogwyr yn wych a dwi'n edrych ymlaen at eu croesawu i Rodney Parade, ein cartref newydd, y tymor nesaf," meddai.
"Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb yn y clwb am eu cefnogaeth."
Mae cynorthwy-ydd Edinburgh, Jimmy Dack, hefyd wedi estyn ei gytundeb.