Cyhuddo dyn o lofruddio ei wraig
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 57 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ei wraig.
Daethpwyd o hyd i gorff Barbara Yates yng nghefn cerbyd yn ardal Llanelwy, Sir Ddinbych nos Fercher.
Cafodd John Yates o Warrington ei gyhuddo o'i llofruddio.
Mae Mr Yates wedi ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron ynadon Llandudno ddydd Sadwrn.
Mae Heddluoedd Swydd Gaer a Gogledd Cymru yn ymchwilio ar y cyd i'r achos.