Y Sioe yn ganolbwynt trafodaethau
Wrth i'r protestio am brisiau llaeth barhau, mae 'na gyfarfod yn cael ei gynnal ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Llun rhwng gwleidyddion, ffermwyr a phroseswyr.
Cod ymddygiad gwirfoddol er mwyn sicrhau prisiau teg yw'r nod.
Ond mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ystyried mynd gam ymhellach a chyflwyno deddfwriaeth i reoli prisiau.
Mae Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaeth Cymru, hefyd yn galw am Reoleiddiwr gydag awdurdod i ddelio â phroblemau'r diwydiant.
Bu'n siarad â Nia Thomas ar raglen y Post Cynta' fore Llun.