Jamie Baulch: Dai Greene yn barod i ennill medal aur
- Cyhoeddwyd

Dydi Dai Greene ddim wedi curo Javier Cuslon eleni
Gyda'r Gemau Olympaidd yn cychwyn ddiwedd yr wythnos mae cyn enillydd medal arian yn y Gemau wedi dweud y gall y Cymro Dai Greene gipio'r fedal aur yn ras 400 metr dros y clwydi.
Mae Jamie Baulch yn grediniol y bydd Greene yn gwella'n raddol i guro Javier Culson am y tro cynta' eleni.
Dywedodd y Cymro Baulch, pencampwr byd, fod Greene, 26 oed, yn y "safle gorau posib" ar gyfer y Gemau.
"Petawn i'n mynd i bencampwriaeth a bod y pencampwr byd yn agosáu ac yn gwella bob ras, fe fuaswn i'n nerfus," meddai'r gŵr enillodd fedal arian yn y Gemau yn 1996 yn y ras gyfnewid 4x400m.
Fe lwyddodd Greene i guro Culson o Puerto Rica ym Mhencampwriaeth y Byd yn Daegu, De Korea ym mis Medi 2011.
Ond cafodd Greene lawdriniaeth ar ei ben-glin dros y gaeaf ac ers hynny mae o wedi bod yn gysgod i Culson.
Meddwl cryf
Mae Culson wedi rhedeg y pum amser gorau o'r saith eleni wrth i Greene gymryd y ddau arall.
Amser gorau Culson yw 47.72, a redodd yn 2010, tra bod amser gorau Greene wedi ei gofnodi yn gynharach yn y mis ym Mharis (47.84).
Fe wnaeth Culson gofnodi ei amser gorau eleni wythnos ar ôl y bencampwriaeth ym Mharis, 47.78, yn Crystal Palace.
Ond dywed Baulch mai Greene fydd yn ennill y fedal aur.
"Mae o mewn sefyllfa wych, yn gryf yn feddyliol a chorfforol," meddai.
"Mae'n beth da bod 'na gystadleuaeth i Greene.
"Bydd Greene yn wych dros y tair rownd tra bod Culson yn dda mewn un ras."
Un o wrthwynebwyr Greene fydd y Cymro Rhys Williams.
"Fel y gwelwyd, mae Greene yn gwella ym mhob ras.
"Gyda Culson...mae'n gwella, ond dim cymaint ag y mae Greene yn ei wneud.
"Croesi bysedd a bydd y fedal aur am wddf Greene."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2012
