Gwobr er cof am Brynle Williams yn y Sioe Frenhinol
- Cyhoeddwyd

Yn ogystal â magu merlod a chobiau roedd Brynle Williams yn feirniad
Am y tro cyntaf mae gwobr er cof am Aelod Cynulliad wedi cael ei chynnig yn y Sioe Frenhinol.
Roedd Brynle Williams yn Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Ogledd Cymru, yn amaethwr ac yn ymddiddori mewn magu merlod a chobiau Cymreig.
Hefyd roedd yn aelod oes y Gymdeithas Cobiau ac yn feirniad rhyngwladol uchel ei barch.
Bu farw Mr Williams yn 2011.
'Ysbrydoliaeth'
O hyn ymlaen mae'r wobr yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn yn yr adran cobiau a merlod Cymreig.
Mr Williams oedd llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion gwledig.
"Roedd Brynle yn seren ddisglair ym myd cefn gwlad a bydd o hyd yn ysbrydoliaeth i nifer," meddai arweinydd y grŵp Ceidwadol, Andrew R T Davies.
"Fel gwleidydd roedd yn feistr ar ei waith ac fe wnaeth frwydro'n ddewr ac yn hir dros gymunedau gwledig Cymru.
"Mae'r wobr yn deyrnged addas i ddyn gysegrodd ei fywyd i faterion gwledig a gwleidyddiaeth.
"Dwi'n hynod falch bod y grŵp wedi penderfynu rhoi teyrnged iddo yn y modd hwn."