Achub dau o afon yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Cafodd dau o bobl eu hachub wedi iddynt syrthio i mewn i afon mewn tref yn Sir Benfro, yn ôl y gwasanaethau brys.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i Lôn Dôl-y-bont yn Hwlffordd toc wedi 7.30pm nos Lun.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod y ddau wedi cael eu tynnu o'r afon gan ddiffoddwyr tân ger pencadlys Cyngor Sir Penfro.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol