Profiad milwr
Mae milwyr Prydain yn fwy tebygol o ymddwyn yn dreisgar a dioddef o broblemau iechyd meddwl ar ôl dychwelyd o faes y gad.
Dyna mae ymchwil meddygol newydd yn ei ddangos.
Fe gafodd miloedd o filwyr eu holi gan Kings College Llundain.
Roedd un o bob wyth milwr yn cyfadde' eu bod nhw wedi taro rhywun.
Mi fu Carwyn Huws yn gwasanaethu yn Irac - cyn iddo adael y fyddin yn 2005.
Bu'n rhannu ei brofiad gyda Garry Owen.