Dafydd Elis-Thomas yn 'gwerthfawrogi' cael y chwip yn ôl
- Cyhoeddwyd

Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas wedi dweud y byddai'n dadlau ei achos gerbron gwrandawiad petai angen
Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi ymateb yn gyhoeddus am y tro cyntaf i ddatganiad Arweinydd Plaid Cymru ddydd Gwener.
Yr wythnos diwethaf collodd Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd chwip y blaid am iddo beidio mynychu pleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths.
Wrth ddweud ddydd Gwener bod yr aelod wedi cael y chwip yn ôl fe wnaeth Leanne Wood ddweud ei bod am i'r mater ddod i ben ac nid oedd yn dderbyniol fod datganiadau'n cael eu gwneud i'r wasg cyn eu rhannu gyda thîm y blaid.
"Does dim dwywaith, mae digwyddiadau'r dyddiau diwethaf wedi bod yn niweidiol i Blaid Cymru a hefyd i'r ymgyrch i gael trafodaeth dryloyw a gonest - ac atebolrwydd - wrth i ni ystyried dyfodol ein Gwasanaeth Iechyd.
"Er mod i'n anghytuno â fe, rydw i'n parchu'r ffaith nad yw Dafydd Elis-Thomas yn rhannu safbwynt y grŵp - a safbwynt y grŵp ers tro - ar ddiogelu gwasanaethau iechyd craidd ar lefel gymunedol a'r angen am atebolrwydd gweinidogol am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud."
'Cefnogaeth'
Wrth gael ei holi ar Post Cyntaf Radio Cymru o'r Sioe Frenhinol ddydd Mercher dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei fod yn gwerthfawrogi'r ffaith bod y chwip wedi ei roi yn ôl.
Dywedodd hefyd ei fod yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a dderbyniodd o bob cwrs o Gymru wedi'r gwaharddiad, sy'n gysur iddo.
"Dwi'n gwerthfawrogi'n fawr y datganiad wnaeth hi.
"Dwi'n mynd i ddal i edrych i'r dyfodol a gweld sut allwn ni gydweithio yn well yn y Cynulliad.
"Dwi wedi dweud sawl tro fy mod yn meddwl ei bod yn bwysig bod Plaid Cymru yn cyfrannu yn greadigol at Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
