Cynghorwyr yn gwrthod cais i godi llosgydd
- Cyhoeddwyd

Roedd y llosgydd yn rhan o brosiect pum awdurdod lleol i geisio delio â gwastraff nad oedd modd ei ailgylchu
Mae Cyngor Casnewydd wedi gwrthod cynlluniau i godi llosgydd enfawr ar hen dir gwaith dur Llanwern.
Yng nghyfarfod arbennig y pwyllgor cynllunio pleidleisiodd cynghorwyr 8-1 yn erbyn y cynnig.
Roedd cwmni Veolia Environmental Services am godi'r llosgydd fyddai wedi trin 250,000 tunnell o wastraff y flwyddyn.
Roedd adroddiad blaenorol yn argymell cymeradwyo'r cynlluniau.
Mae'r cyngor wedi dweud nad ydyn nhw am wneud unrhyw sylw pellach.
Bygythiad
Roedd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent wedi honni bod y bygythiad i fywyd gwyllt yn aber Afon Hafren a Gwastadeddau Gwent yn rhy uchel.
Eisoes dywedodd y cwmni sy'n gyfrifol am y cynllun eu bod wedi "cynnal asesiad amgylcheddol cynhwysfawr".
Roedd y prosiect yn rhan o gynlluniau pump o gynghorau De Cymru i ddelio â gwastraff nad oedd modd ei ailgylchu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012

- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011
