Y Seintiau Newydd allan o Gynghrair Pencampwyr Ewrop
- Cyhoeddwyd

Y Seintiau Newydd yn dathlu eu buddugoliaeth yng Nghwpan Cymru eleni
Helsingborg 3-0 Y Seintiau Newydd
Chwalwyd gobeithion Pencampwyr Uwchgynghrair Cymru o barhau yng Nghynghrair Y Pencampwyr wedi iddynt golli oddi cartref yn erbyn pencampwyr Sweden nos Fercher.
Bu cymal cyntaf y gêm ail rownd ragbrofol rhwng Y Seintiau Newydd a Helsingborg yn ddi-sgôr yn Neuadd y Parc yr wythnos diwethaf.
Teithiodd y Seintiau i Sweden ar gyfer yr ail gymal â'r gêm yn dal yn fyw.
Sgoriodd Walid Atta gôl gyntaf Helsingborg ar ôl wyth munud pan rwydodd gyda'i bên yn dilyn cic gornel.
Cyfleodd euraid
Dyblodd Thomas Sørum y fantais i'r tîm cartref wedi 19 munud yn dilyn amddiffyn gwael gan y Seintiau Newydd.
Ond ymatebodd Y Sentiau'n gryf ac fe fethodd Greg Draper â dau gyfle euraid cyn diwedd yr hanner cyntaf.
Seliodd Alvaro y fuddugoliaeth i Helsingborg wedi 89 munud.
Y Seintiau Newydd oedd cynrychiolwyr olaf Cymru yn Ewrop eleni wedi i Lanelli, Bangor a Derwyddon Cefn golli yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa yr wythnos diwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012
