Adeilad newydd i Undeb Amaethwyr Cymru
Does 'na ddim blwyddyn yn mynd heibio heb ryw fath o fuddsoddiad ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Eleni mae tŵr sylwebu newydd ar gyfer y cylch gwartheg wedi ei noddi gan Sir Benfro.
Ger y prif gylch mae safle Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych yn wahanol iawn ar ôl codi estyniad a gweddnewid y tu allan.
Cafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol gan Yr Arglwydd John Morris yn ystod yr wythnos.
Adroddiad Arwyn Jones.