Tân: Anfon naw criw i ddiffodd y fflamau yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 73 oed mewn uned losgiadau ar ôl i dân ddifrodi tŷ yn Sir Ddinbych.
Am bron 12 awr roedd criwiau naw injan dân yn ymladd y fflamau ym mhentref Llanarmon-yn-Iâl.
Cafodd chwe injan dân eu difrodi cyn i'r fflamau gael eu diffodd am 5.50am ddydd Iau.
Mae'r dyn, gafodd anafiadau i'w dwylo, yn Ysbyty Whiston, Glannau Mersi, wedi'r tân a ddechreuodd mewn garej.
Cerbydau traws gwlad
Chafodd neb arall ei anafu.
Dywedodd y gwasanaeth tân ac achub fod y tân wedi dechrau'n ddamweiniol.
Cafodd dau griw o Wrecsam, dau griw o Lannau Dyfrdwy a chriwiau tân o Ruthun, Yr Wyddgrug, Llanelwy, Prestatyn a Bwcle eu hanfon.
Hefyd roedd uned amgylcheddol y gwasanaeth tân a cherbydau traws gwlad o Ddinbych, Abergele a Llangollen yn bresennol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol