Cannoedd yn dioddef o'r gwres yn Y Sioe Fawr
- Cyhoeddwyd

Cafodd mwy na 200 o bobl driniaeth feddygol ar y Maes ddydd Mercher
Dywedodd swyddogion fod dyn wedi cael triniaeth oherwydd trawiad gwres a llosgiadau gradd gynta' yn y Sioe Fawr ddydd Mercher.
Bu'n rhaid iddo dderbyn morffin a hylifau mewnwythiennol ar faes y sioe cyn cael ei gludo i Ysbyty Treforys.
Yr un diwrnod deliodd staff canolfan feddygol Urdd Sant Ioan Cymru â 206 o achosion, gan gynnwys rhai'n gysylltiedig â gwres.
Aed â thri i'r ysbyty mewn hofrennydd, gan gynnwys dyn â phroblemau'r galon a menyw gafodd bwl o asthma.
Cegin
Cyhoeddodd Urdd Sant Ioan fod "digwyddiad trawiad gwres difrifol" wedi bod am fod cymaint wedi cael triniaeth ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Oherwydd y galw bu'n rhaid i'r staff roi triniaeth i rai yng nghegin y ganolfan.
Ddydd Mercher cafodd pabell arbennig ei chodi fel bod modd rhoi triniaeth i 12 yn fwy o bobl.
202
Ddydd Llun deliodd staff ag 190 o achosion tra bod 202 wedi cael triniaeth (120 o ganlyniad i'r gwres) ddydd Mawrth.
Roedd 60 o wirfoddolwyr Urdd Sant Ioan ar ddyletswydd yn y sioe.
Dywedodd David Gardner, Comisiynydd Urdd Sant Ioan yn y canolbarth: "Fe wnaeth ymdrech wych pawb sicrhau bod pawb oedd angen ein help wedi cael y driniaeth briodol unwaith eto."