Caerffili'n croesawu ras feicio
- Cyhoeddwyd

Bydd Gruff Lewis yn cystadlu yn ras y Tour of Britain am y tro cyntaf
Bydd Caerffili yn gobeithio manteisio ar boblogrwydd seiclo wedi llwyddiant Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Ddydd Mercher bydd digwyddiad arbennig i groesawu ras feicio fwyaf Prydain - Tour of Britain - yn ôl i Gaerffili.
Bydd chweched cymal y ras - sy'n wyth o gymalau i gyd - yn gorffen yng Nghaerffili, a'r gobaith yw y bydd rhai enwau mawr y gamp yno.
Ar Fedi 14, bydd y cystadleuwyr yn dechrau cymal 6 yng Nghastell Powys ger Y Trallwng cyn mynd ar daith galed i fyny ac i lawr Mynydd Caerffili ddwywaith cyn gorffen y cymal 189km yng nghysgod castell enwog y dref.
Ar y ffordd fe fydd y ras yn teithio drwy Drefaldwyn, Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt cyn anelu dros Fannau Brycheiniog.
Er mwyn dathlu'r achlysur o flaen llaw, ac i groesawu'r ras i'r sir, bydd beicwyr proffesiynol yn teithio i'r castell ddydd Mercher.
Tîm ieuenctid
Bydd y ras gyflawn yn dechrau yn Ipswich ar Fedi 9, ac yn gorffen yn Guildford ar Fedi 16.
Fe fydd rhai o dimau seiclo enwoca'r byd yn rasio gan gynnwys Team Sky, Garmin-Sharp ac Euskaltel-Euskadi.
Yno hefyd bydd tîm newydd ieuenctid Prydain - Team UK Youth - sy'n cynnwys y Cymro Gruff Lewis o Aberystwyth.
Cafodd Gruff ei goroni'n Bencampwr Rasio Ffordd Cymru yn 2011, ac enillodd Bencampwriaeth Criterium Cymru yn yr un flwyddyn.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gruff gystadlu yn y Tour of Britain.
Ymhlith y cystadleuwyr yn ras 2011 roedd y Cymro Geraint Thomas, a enillodd fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn Llundain, a Mark Cavendish, un o'r gwibwyr mwyaf llwyddiannus erioed yn hanes y Tour de France.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2012