Medal arian i Ellie Simmonds
- Cyhoeddwyd

Ellie a'r Americanes ar ben eu digon ar ddiwedd y ras
Mae'r nofwraig Ellie Simmonds, sy'n hyfforddi yn Abertawe, wedi ennill medal arian yn y ras S6 dros 100 metr dull rhydd.
Roedd hi'n ail, 1 munud 14.82 o eiliadau, tu ôl yr Americanes, Victoria Arlen, 1 munud 13.33 o eiliadau, record byd newydd.
Yn rhagras y bore llwyddodd brenhines y pwll i sicrhau ei lle yn rownd derfynol fawr y nos.
"Fe wnes i fy ngorau yn ystod y 50 metr ola'," meddai Ellie.
"Byddai ennill yr aur wedi bod yn wych ond dyna fe, all neb gyflawni popeth.
"Dwi ddim am i'r gemau ddod i ben ... dwi'n edrych ymlaen at ddathlu gyda'r tîm."
Eisoes mae'r ferch 17 oed wedi ennill dwy fedal aur ac un efydd yn y gemau.
Cafodd ei geni yn Walsall, ei magu yn Abertawe cyn mynd i Ysgol Gyfun Olchfa.
Yn 2008 enillodd ddwy fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn China pan oedd hi'n 13 oed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2012
- Cyhoeddwyd30 Awst 2012

- Cyhoeddwyd1 Medi 2012

- Cyhoeddwyd2 Medi 2012
