Cymeradwyo cynllun ysbyty gwerth £60 miliwn
- Cyhoeddwyd

Bydd y gwaith wedi ei gwblhau mewn dwy flynedd
Mae'r Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynllun £60 miliwn i adnewyddu prif adeiladau Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Dros y ddwy flynedd nesaf bydd yr adeiladau, sy'n dyddio nôl i'r Ail Ryfel Byd, yn cael eu hadnewyddu a bydd yna estyniad newydd.
Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau fe fydd yna brif fynedfa newydd i''r ysbyty a bydd yna dair siop.
Bydd yr estyniad yn gartref i adran cleifion allanol, radioleg a chanolfan addysg.
Yna hefyd fydd yr adran Pelydr-x, deintyddiaeth a dialysis arennol.
Mae'r staff meddygol wedi chwarae rhan allweddol wrth gynllunio'r adeilad newydd er mwyn sicrhau ei fod yn addas i anghenion cleifion a staff.
'Gwelliant sylweddol'
Eisoes fel rhan o'r rhaglen £102 miliwn i ailddatblygu ysbyty Treforys mae maes parcio aml-lawr, pad hofrennydd a ffyrdd cyswllt newydd wedi eu hadeiladu.

Mae'r gwaith yn rhan o ddatblygiad gwerth £102 m
Bydd gwelliannau'r i'r adran frys wedi eu cwblhau erbyn Rhagfyr a bydd
Dywedodd Paul Stauber, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod hwn yn fuddsoddiad mawr yn Ysbyty Treforys.
"Nawr fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r cyllid, bydd y tîm cynllunion yn gallu ffocysu ar y defnydd o'r adeiladau newydd.
"Bydd o'n welliant sylweddol i'r adeiladau presennol, gafodd eu hadeiladu yn ystod y 1940au."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012
