Norofirws: Dwy ward wedi eu cau yn Ysbyty Treforys
- Cyhoeddwyd

Golchi'r dwylo yw'r ffordd orau i atal lledu'r firws
Mae dwy ward wedi eu cau yn Ysbyty Treforys, Abertawe, oherwydd y salwch stumog Norofirws.
Wardiau S a Cyril Evans sydd wedi eu cau.
"Dylai ymwelwyr sy' wedi cael symptomau ers ychydig o ddiwrnodau, gan gynnwys ffliw, dolur rhydd neu chwydu, gadw draw," meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
Mae Norofirws, sy'n lledu oherwydd cysylltiad â pherson neu wrthrych wedi ei heintio, yn effeithio ar hyd at filiwn o bobl y flwyddyn ym Mhrydain.
Golchi'r dwylo yw'r ffordd orau i atal lledu'r firws sydd, fel arfer, yn dod i ben mewn hyd at 48 o oriau.