'Ar gyfer yr oes fodern'
- Cyhoeddwyd

Bydd llyfrgell newydd, a fydd yn addas ar gyfer yr oes fodern, yn cael ei chodi yn Hwlffordd.
Er mwyn cychwyn y rhaglen adeiladu sylweddol fe fydd y llyfrgell sirol bresennol, sy'n dyddio o ddiwedd y 1960au yn cau.
Yn y gwanwyn bydd y gwaith o ailddatblygu'r safle yn cychwyn. Mae disgwyl i'r gwaith gymryd 18-24 mis i'w gwblhau.
Bydd yr adeilad presennol yn cael ei addasu i fod yn fwy modern ac yn fwy cyfeillgar.
Dywedodd y cyngor mai'r bwriad fydd canoli'r holl wasanaethau llyfrgell ar y llawr gwaelod.
Gweld cynlluniau
Bydd y llawr cyntaf wedyn yn gartref i adran addysgu oedolion Hwlffordd, Dysgu Penfro a fydd yn cynnwys bar coffi newydd.
Yn y cyfamser fe fydd clwb ieuenctid y dref, sydd wedi ei leoli dros dro yng Ngholeg Sir Benfro, yn cael ei leoli ar y llawr isaf.
Bydd cynlluniau ar gyfer y llyfrgell newydd a'r ganolfan addysgu gymunedol i'w gweld o ddydd Llun ymlaen.
"Mae'r adeilad presennol yn hen ac angen ei adnewyddu," eglurodd y Cynghorydd Elwyn Morse, aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau diwylliant.
"Ein dyhead yw gwneud y gwasanaeth yn fwy apelgar i'r cyhoedd ac uno'r llyfrgell fenthyg, addysg oedolion a gwasanaethau'r ifanc o dan yr un to.
"Mae llyfrgelloedd bellach yn cynnig croeso cynnes ac amrywiaeth o wasanaethau yn ychwanegol i fenthyca llyfrau.
"Dwi'n gobeithio y bydd yr adeilad newydd yn annog mwy o bobl i ymweld, eu bod eisiau dychwelyd ac aros yn hirach."
Newidiadau
O dan y cynlluniau fe fydd rhan i'r adeilad presennol, yn cynnwys yr ail lawr, yn cael ei ddymchwel ac ail ddatblygu'r safle.
Er mwyn paratoi ar gyfer y gwaith, a fydd yn cychwyn fis Ebrill gobeithio, bydd gwasanaethau yn yr adeilad presennol yn cychwyn cau.
Y llyfrgell gyfeiriadol a llyfrgell astudiaethau lleol fydd yn cau gyntaf ar Dachwedd 12.
Bydd y gwasanaeth yna - ac eithrio gwasanaeth cyfeiriadol bychan - yn parhau ar gau tan y bydd yn ail agor yn Swyddfa Gofnodion Sir Benfro yn ardal Prendergast o'r dref ym mis Ionawr.
Bydd y llyfrgell fenthyca gyhoeddus yn cau ar Dachwedd 26 ac ail agor bythefnos yn ddiweddarach yn adeilad addysgu cymunedol yn y maes parcio yng nghefn y llyfrgell.
"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ond mae'n allweddol i wella'r adeilad," meddai'r Prif Lyfrgellydd, Anita Thomas.
"Yn y cyfamser, gallwn sicrhau'r cyhoedd y byddwn yn gweithredu fel arfer yn ein cartref dros dro."