Ailwampio uned ddialysis ym Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd

Disgwylir mai tua £3 miliwn fydd gwerth y buddsoddiad
Bydd cleifion sy'n cael triniaeth ar yr arennau ym Merthyr Tudful yn cael gofal mewn uned ddialysis newydd.
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi y bydd arian ar gael i adeiladu canolfan newydd yn lle'r uned bresennol yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.
Caiff y gost ei bennu wedi i'r contract gael ei ddyfarnu.
Disgwylir mai tua £3 miliwn fydd gwerth y buddsoddiad.
Darpariaeth ddialysis
Mae tua 10,000 o bobl yn dioddef o glefyd arennol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae'n effeithio ar fywyd bob dydd y cleifion, eu teuluoedd a'u cyfeillion.
Yn sgil y datblygiad newydd arfaethedig hwn, bydd cyfle i gynyddu'r ddarpariaeth ddialysis ym Merthyr Tudful.
Bydd 17 gwely ychwanegol ar gael, gan gynyddu'r cyfanswm i 30.
Caiff y rhain eu comisiynu fesul cam yn unol â'r galw clinigol.
Disgwylir i'r uned newydd hon gael ei chwblhau erbyn haf 2013.
Mae'r ysbyty wedi dioddef problemau'n ymwneud â saernïaeth yr adeilad presennol, y system aerdymheru a'r cyflenwad dŵr.
'Ehangu'r gwasanaeth'
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rydym wedi buddsoddi yn y gwasanaeth hwn yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cael dialysis arennol yn nes at eu cartrefi.
"Byddwn yn parhau i foderneiddio'r cyfleusterau a chynyddu'r gallu i gynnig dialysis ar nifer o safleoedd addas yng Nghymru fel rhan o raglen ddatblygu ym maes gofal dialysis arennol."
Dywedodd Allison Williams, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf: "Bydd yr uned ddialysis yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gofal y gallwn ei gynnig i gleifion wrth iddynt gael triniaeth ddialysis.
"Bydd hefyd yn gyfle i ni ehangu'r gwasanaeth a chwrdd ag anghenion cleifion sy'n dioddef o fethiant yr arennau."
Ar gyfartaledd, mae un person o Gymru yn marw bob wythnos wrth aros am organ drwy'r gofrestr rhoddwyr organau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2011