Cau tafarnau ar Ynys Môn am werthu alcohol i bobl dan oed
- Cyhoeddwyd

Roedd ymgyrchoedd ym mis Medi ac un ym mis Rhagfyr
Bydd chwe thafarn ar Ynys Môn yn gorfod cau am dridiau am iddyn nhw werthu alcohol i bobl dan oed.
Heddlu'r Gogledd gyflwynodd y rhybudd.
Y tafarnau yw'r Crown ym Modedern, y Liverpool Arms yn Amlwch, y Gazelle a Thafarn y Fic ym Morthaethwy, Tafarn Tŷ Gwyn yn Llanfairpwll a'r George and Dragon ym Miwmares.
Mae hyn wedi cyfres o "brofion prynu" lle cafodd alcohol ei werthu i bobl o dan 18 oed ar ddau achlysur gwahanol o fewn tri mis.
Ymgyrchoedd
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y tafarndai wedi cael dewis cau am gyfnod penodol yn hytrach na chael eu herlyn am werthu alcohol i bobl o dan 18 oed.
Roedd ymgyrchoedd yr heddlu ym mis Medi a Rhagfyr.
Bydd y Crown ym Modedern a Thafarn Tŷ Gwyn, Llanfairpwll, ar gau rhwng Ionawr 4 a 7.
Bydd y Gazelle, Gwesty'r Fic, y George and Dragon a'r Liverpool Arms ar gau rhwng Ionawr 11 a 14.
Dywedodd yr Arolygydd dros dro Gethin Jones: "Bydd yr ymgyrchoedd yn parhau gan eu bod yn atgyfnerthu'r bartneriaeth rhwng Adran Drwyddedu Cyngor Ynys Môn a' nod ni o fynd i'r afael â gwerthu alcohol i bobl o dan oed a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2012
