Bethan Jenkins yn aelod llawn eto
- Cyhoeddwyd

Mae Bethan Jenkins wedi ymddiheuro'n gyhoeddus ac i Aelodau Cynulliad Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi codi'r gwaharddiad ar yr Aelod Cynulliad Bethan Jenkins wedi iddi gael ei dal yn yfed a gyrru.
Fis diwetha' cafodd ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis a dirwy o £750, costau o £85 a gorchymyn i ddilyn cwrs ail-hyfforddiant cyn cael ailgychwyn gyrru.
Roedd yr Aelod Cynulliad dros Orllewin De Cymru wedi cael ei diarddel o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad dros dro.
Dywedodd Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, Alun Ffred Jones AC: "Mae Bethan wedi ymddiheuro yn gyhoeddus a hefyd wedi ymddiheuro'n llawn i ACau Plaid Cymru heddiw.
'Aelod llawn'
"Nid yw bellach wedi ei diarddel o'r grŵp yn y Cynulliad ac mae hi nawr yn aelod llawn unwaith eto. Mae proses disgyblu'r grŵp bellach wedi dod i ben."
Pan gafodd hi brawf anadlu gan yr heddlu yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore ar Hydref 14 y llynedd, roedd lefel yr alcohol yn ei chorff ddwywaith y lefel gyfreithlon.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd ei bod yn droednoeth ac yn gwisgo dillad nos.
Mewn datganiad ar y pryd dywedodd Ms Jenkins ei bod yn edifar yn fawr ac yn ceisio ymdopi ag iselder.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012