Morglawdd Hafren: Methu cyfleoedd
- Cyhoeddwyd

Argraff artist o Forglawdd Afon Hafren
Ar ddiwrnod cynta'r ymchwiliad seneddol i forglawdd Afon Hafren, mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi bod yn siarad o blaid y cynllun.
Gadawodd Mr Hain ei le ar fainc flaen Llafur y llynedd er mwyn canolbwyntio ar hybu'r cynllun £25 biliwn.
Wrth siarad gyda Phwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan, mynnodd y byddai'r cynllun yn creu 50,000 o swyddi, ac yn llesol i'r amgylchedd.
Dywedodd y byddai'n creu 5% o anghenion trydan y DU, sy'n gyfystyr â thair neu bedair atomfa a miloedd o dyrbinau gwynt, ac yn gwarchod 90,000 o gartrefi rhag llifogydd.
Buddion
Ychwanegodd Aelod Seneddol Castell-nedd ei fod yn deall bod y morglawdd yn bwnc llosg ymysg grwpiau amgylcheddol, ond ychwanegodd: "Rydym wedi astudio hyn hyd syrffed.
"Gallwn barhau i ymchwilio i'r peth am ddegawdau i ddod, ond yn y cyfamser nid ydym yn cyrraedd ein nod ar newid hinsawdd, ac rydym yn methu cyfleoedd economaidd enfawr.
"Rhaid i ni feddwl yn fawr a chymryd y cyfle yma.
"Mae hwn yn ynni naturiol a fydd yn cynhyrchu trydan rhad iawn i'r DU, ac mae llawer o fuddion eraill hefyd."
'Rwtsh'
Dywedodd Andy Richards o undeb Unite yn ei dystiolaeth yntau i'r ymchwiliad, bod cefnogaeth "sylweddol" ymysg y cyhoedd yng Nghymru i'r cynllun.
Mynnodd ei bod yn bryd symud ymlaen o "godi bwganod" a dechrau ystyried manylion y cynllun gan gwmni Hafren Power - y cwmni sy'n gyfrifol am y cynllun.
Ond mae gwrthwynebwyr y cynllun wedi dweud bod un o honiadau Mr Hain yn "rwtsh".
Roedd Mr Hain wedi dweud y byddai'r morglawdd yn "gyfeillgar i bysgod", ond yn ei dystiolaeth i'r ymchwiliad dywedodd Martin Salter o'r Ymddiriedolaeth Bysgota y byddai'r morglawdd yn "malu pysgod 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos".
Mae'r ymchwiliad yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd20 Awst 2012

- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012