Amgueddfa am golli 35 o swyddi
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Ellis Roberts
Mae Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi eu bwriad i ddileu 35 o swyddi parhaol fel rhan o broses ailstrwythuro.
Dywedodd yr amgueddfa eu bod wedi dechrau proses ymgynghori 90 diwrnod â'u staff ac y byddai'r newidiadau'n effeithio ar 150 o swyddi eraill "mewn rhyw fodd".
"Rydym yn gobeithio osgoi diswyddiadau gorfodol drwy gynnig adleoli staff a chynlluniau fel diswyddo gwirfoddol ac ymddeoliad cynnar," meddai llefarydd.
Mae Neil Harrison, Ysgrifennydd Cangen undeb y PCS, wedi dweud: "Mae'r cyhoeddiad yn achosi gofid ymhlith staff a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau ac yn poeni am eu dyfodol.
"Yn sicr, mae colli 35 o swyddi parhaol yn golled fawr o ran ymroddiad ac arbenigedd staff."
'Siomedig'
Dywedodd llefarydd ar ran undeb Prospect, sy'n cynrychioli ceidwaid a swyddi tebyg: "Mae'r newyddion yn siomedig ... rydym yn poeni am golli arbenigedd a'r effaith ar Gymru."
Mae'n bosib' y bydd yr effeithiau mwya' ar ddwy adran, Casgliadau, Ymchwil ac Addysg ac Arddangosfeydd a Chyfryngau Newydd.
Yn saith safle'r amgueddfa mae 650 o staff ac ers 2011 mae £5 miliwn yn llai yn eu cyllideb dair blynedd.
Y llynedd fe gafodd Amgueddfa Cymru ei ffigyrau ymwelwyr gorau ers cyflwyno mynediad am ddim yn 2001.
Cafodd y saith safle gyfanswm o 1.69m o ymwelwyr yn ystod 2011-12.
Bydd Amgueddfa Cymru yn bwrw 'mlaen gydag ailwampio ac ehangu Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ar gost o £25 miliwn.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyfrannu £11.5m tuag at y cynlluniau, a Llywodraeth Cymru £6m. Mae Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi apêl ar gyfer codi'r gweddill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013
