Cefnogwyr pêl-droed eisiau mwy o ddylanwad
- Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr yn berchen ar 20% o Glwb Pêl-droed Abertawe
Mae cefnogwyr pêl-droed o Gymru'n lobïo yn San Steffan fel rhan o ymgyrch i geisio sicrhau fod gan gefnogwyr fwy o ddylanwad dros eu clybiau.
Bydd Aelodau Seneddol yn gwrando ar alwadau i newid y modd mae timau'n cael eu rheoli.
Yn ôl y cefnogwyr, mae clybiau pêl-droed yn asedau i'r gymuned ac fe ddylen nhw gael eu trin fel mwy na dim ond busnesau.
Yng Nghymru, mae cefnogwyr yn berchen ar 20% o glwb Abertawe ac mae Wrecsam yn eiddo'n gyfan gwbl i gefnogwyr.
Clwb preifat yw Caerdydd, yn eiddo i ŵr busnes o Malaysia, Vincent Tan, ond byddai nifer o gefnogwyr yr Adar Gleision yn hoffi cael mwy o ddylanwad ar y ffordd mae'r clwb yn cael ei reoli.
'Asedau i'r gymuned'
Dywedodd Marc Jones, o fwrdd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam: "Roedden ni'n mynd o un argyfwng i'r llall cyn i'r ymddiriedolaeth gymryd yr awenau.
"Rwy'n credu fod 'na sefydlogrwydd oddi ar y cae nawr - gallwn ni ganolbwyntio o ddifri ar y cae am unwaith sy'n anhygoel o bositif."
Dywedodd Tim Hartley - cadeirydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd ac aelod o fwrdd Supporters Direct, sydd wedi trefnu'r lobi yn y Senedd - fod cefnogwyr yn gallu helpu clybiau i chwarae rhan fwy cadarnhaol yn eu cymunedau.
"Dydyn ni ddim yn credu fod pêl-droed fel unrhyw fusnes arall, ac mae clybiau pêl-droed yn asedau i'r gymuned, allwch chi ddim gwneud fel y mynnoch chi hefo nhw.
"Maen nhw'n gryfach ac yn cyfrannu mwy i'r gymuned a'r gymdeithas os yw'r cefnogwyr yn dylanwadu arnyn nhw, sef y bobl sy'n galluogi nhw i fodoli mewn ffordd."
Mae Supporters Direct yn gweithio gyda 180 o ymddiriedolaethau cefnogwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac yn weithredol mewn dros 20 o wledydd Ewropeaidd mewn nifer o gampau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011

- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011

- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2012

- Cyhoeddwyd9 Mai 2012

- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
