Galw am ragor o rieni maeth yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae Rhwydwaith Maethu Cymru yn galw am fwy o rieni maeth
Mae elusen yn honni bod angen o leiaf 600 o rieni maeth ychwanegol yng Nghymru wrth i niferoedd y plant mewn gofal gynyddu.
Er i niferoedd y teuluoedd sy'n maethu gynyddu yn 2012, mae ffigyrau yn dangos cynnydd yn nifer y plant sydd yng ngofal cynghorau lleol am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Yn ôl Rhwydwaith Maethu Cymru, mae yna dros 4,300 o blant yn byw gyda theuluoedd maeth yng Nghymru.
Dywed yr elusen fod adrannau gwasanaethau cymdeithasol bellach yn fwy tebygol o drefnu gofal yn gynharach i blant mewn angen.
Maen nhw hefyd wedi clywed gan weithwyr o fewn y sector gofal fod pwysau economaidd yn effeithio ar allu rhai teuluoedd i ymdopi ac aros gyda'i gilydd fel uned.
Mwy o gymorth
Mae yna alw arbennig am deuluoedd sy'n hapus i roi cartref i blant anabl, pobl ifanc yn eu harddegau a brodyr a chwiorydd.
Gyda 13% o rieni maeth yn ymddeol neu'n penderfynu rhoi'r gorau iddi bob blwyddyn, mae angen rhagor i gamu i'r adwy.
Heb ragor o gymorth, mae'r elusen yn pryderu y bydd plant yn gorfod aros gyda theuluoedd maeth sy'n bell o'u teuluoedd a'u hysgolion, neu sydd ddim yn gallu cynnig y cymorth priodol.
Gall hyn arwain at ragor o chwalfa ym mywyd y plentyn ifanc wrth iddyn nhw orfod symud cartref dro ar ôl tro.
Dywedodd Freda Lewis, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru, "Er bod gwasanaethau maethu yn llwyddo i ddenu mwy o deuluoedd maeth, mae'r cynnydd parhaol yn nifer y plant mewn gofal yn golygu ein bod angen cannoedd mwy ohonyn nhw.
"Rydym yn ymwybodol fod gwasanaethau maethu yn chwilio am deuluoedd ar gyfer plant yn eu harddegau, plant anabl a grwpiau o frodyr a chwiorydd.
"Mae'r plant yma angen bywyd teuluol sefydlog er mwyn iddyn nhw allu tyfu a chyflawni eu potensial.
"Trwy fod yn ofalwyr maeth, mae pobl yn gallu eu helpu nhw i gael y cyfle am ddyfodol positif, i wneud yn dda yn yr ysgol a bod yn llwyddiannus yn eu bywydau."
Ychwanegodd fod y gwasanaethau maethu yn chwilio am bobl o gefndiroedd gwahanol ac o oedrannau amrywiol, a phobl sengl a phriod.
"Beth sy'n bwysig yw eu bod eisiau gweithio gyda phlant ac efo'r sgiliau cywir i'w helpu," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd18 Mai 2012

- Cyhoeddwyd17 Mai 2012
